CYNLLUN GRANTIAU BACH Y FFEDERASIWN
GRANTIAU CYMORTH ACHREDU
Mae cylch nesaf cynllun grantiau bach Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celfyddyd Cymru ar gael nawr i’w aelodau (grantiau hyd at uchafswm o £3,000). Gweler atodiadau am fanylion llawn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cofiwch gysylltu â Chris Delaney, Swyddog Datblygu’r Ffederasiwn, lin.chris@btinternet.com Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn o geisiadau yw 11egHydref (canol y dydd).
Nodyn: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 28ain Chwefror 2020.
Mae’r cynllun grantiau yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Ffederasiwn.
MAES BLAENORIAETH Y GRANT
Bydd unrhyw geisiadau sy’n rhoi sylw i daclo anfantais a chefnogi cymunedau mwy cydnerth yn cael blaenoriaeth, yn benodol y rhai sy’n cyflawni argymhellion adroddiad y Farwnes Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi: Defnyddio’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i hybu cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, sy’n herio sefydliadau diwylliannol a threftadaeth i gydweithio er mwyn peri newid trawsffurfiol. Bydd prosiectau sy’n rhoi cymorth i bobl i fagu sgiliau a chefnogi cyflogadwyedd, drwy ddarparu dysgu achrededig, gwirfoddoli a hyfforddiant, yn cael blaenoriaeth uwch.
DEDDF LLES CENEDLAETHAU’R DYFODOL
Mae’n OFYNNOL i ymgeiswyr ddatgan sut mae’r prosiect sy’n gynwysedig yn eu cais yn cyfrannu at Nodau Lles y Ddeddf
Follow us on:
