Mae cyllid Dianc i’r Gwyllt bellach ar gael i sefydliadau yng Nghymru

Dec 6, 2022

Mae cyllid bellach ar gael i sefydliadau yng Nghymru sydd angen cymorth ariannol i gymryd rhan yn y prosiect Dianc i’r Gwyllt/The Wild Escape, prosiect newydd o bwys gan y Gronfa Gelf sy’n uno cannoedd o amgueddfeydd ac ysgolion i ddathlu bywyd gwyllt a chreadigrwydd y DU. Mae'r Gronfa Gelf wedi partneru â Datblygu Amgueddfeydd y DU i ddarparu grantiau bach hyd at £3,000, y gall sefydliadau yng Nghymru yn awr wneud cais am y grantiau hyn i Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru. Mae ceisiadau yn cau ddydd Llun 6 Ionawr 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio neu am y prosiect yn gyffredinol, cysylltwch â thewildescape@artfund.org Gwnewch gais yma 

Mae Dianc i’r Gwyllt/The Wild Escape yn bosibl gyda chymorth Grantiau Prosiect y Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr.