Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn chwilio am ymgynghorydd/ gweithiwr

Jul 11, 2023

Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru yn chwilio am ymgynghorydd/ gweithiwr llawrydd i arwain y gwaith marchnata a chyfathrebu i hyrwyddo Gŵyl Amgueddfeydd Cymru (2023 a 2024).

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau yw 5pm dydd Mercher 19 Gorffennaf.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Gwener 28 Gorffennaf 2023.

Yn ddelfrydol, hoffem i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i ddechrau gweithio ar y prosiect yn ystod mis Awst ond dim hwyrach na dydd Llun 4ydd Medi.

Ffi

Mae'r ffi am y pecyn gwaith hwn yn sefydlog ar £29,000 (rhaid i hyn gynnwys yr holl gostau - costau teithio, costau contractwyr, TAW os yn berthnasol, ac ati). Rhaid i hyn hefyd gynnwys swm ar gyfer prynu a dosbarthu deunydd ac adnoddau’r Ŵyl i’r amgueddfeydd (mae Gwyliau blaenorol wedi dosbarthu bynting, posteri, sticeri a phensiliau).

DS: Mae cyllid gennym ar gyfer cynnal Gŵyl fis Hydref 2023 a mis Hydref 2024. Yn ddelfrydol dymunwn i'r un person/ asiantaeth weithio ar y ddwy ŵyl gan gynnwys y gwerthuso ar ôl cynnal yr ŵyl. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall fod angen cyfnod o adolygu ar y ddau safle yn dilyn gŵyl eleni. Mae £29K ar gyfer y ddwy ŵyl – felly £29K ar gyfer 2023 ac yna £29K arall ar gyfer 2024.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi’n hael gan Lywodraeth Cymru drwy’r Is-adran Diwylliant.

Gweler y manylion llawn ynghlwm.