Pwy Ydym Ni
Ein Gwaith
Rydym yn cynrychioli ac yn rhoi cymorth i amgueddfeydd ac orielau Cymru, a'r sawl sy'n eu cefnogi.
Rydym yn darparu adnoddau, yn cydlynu rhaglen hyfforddi, yn rhedeg cynllun grantiau bach ac yn darparu grantiau ar gyfer hyfforddiant a chynadleddau i aelodau.
Rydym wedi meithrin partneriaethau allweddol gydag amrediad o sefydliadau, yn cynnwys:
- MALD
- Cyngor Celfyddydau Lloegr
- Amgueddfa Cymru
- Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol
- Cymdeithas yr Amgueddfeydd
yn ogystal â chyfrannu at ymgynghoriadau perthnasol
Rydym wedi sefydlu sawl Gweithgor ac rydym hefyd yn ceisio creu prosiectau o'r newydd a dod yn bartneriaid mewn prosiectau presennol sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo Strategaeth Amgueddfeydd Cymru. Ddwywaith y flwyddyn rydym yn cyhoeddi YMAG, sef ein cylchlythyr i aelodau. Mae hwn yn ffordd wych o ddysgu am gydweithwyr, mentrau a phrosiectau newydd a gallwch hefyd ei ddefnyddio i roi cyhoeddusrwydd i'r gwaith rydych chi'n ei wneud.

Follow us on:
