Strategaeth Amgueddfeydd Cymru

Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gymeradwyo strategaeth ar gyfer amgueddfeydd, a hynny nôl yn 2010. Cynhyrchwyd y strategaeth gan CyMAL, mewn ymgynghoriad â'r sector, ac mae Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru wedi bod yn allweddol yn ei rhoi ar waith o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn dal wrthi'n ddygn yn rhoi cymorth i amgueddfeydd gyflawni'r strategaeth.

  • Gallwch lwytho Strategaeth Amgueddfeydd Cymru oddi ar wefan CyMAL
  • Tarwch olwg ar adnoddau ar-lein y Ffederasiwn sy'n rhoi cymorth i gyflawni'r strategaeth. Ceir hefyd dolenni a dogfennau sydd wedi'u rhannu gan y gymuned amgueddfeydd yng Nghymru a thu hwnt.
  • Ewch i Rhannu: Gwybodaeth ymysg Amgueddfeydd Cymru i ganfod cydweithwyr a all gynnig cymorth neu i gael ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae'r strategaeth yn datgan:

“Ein nod yw y bydd amgueddfeydd yng Nghymru erbyn 2015 wedi gwella eu gwasanaethau yn ôl tair egwyddor ganolog sy’n sylfaen gadarn i le amgueddfeydd ym mywyd Cymru.

Amgueddfeydd i Bawb

Bydd amgueddfeydd yn cyfrannu at gymunedau byw, gan hyrwyddo gwerthoedd cymdeithas deg a chyfiawn ac yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.

Casgliad i'r Genedl

Bydd amgueddfeydd yn dal casgliadau i’r genedl sy’n cynrychioli ein diwylliant cyfoethog ac amrywiol, gan ofalu amdanynt a pharhau i’w datblygu.

Gweithio'n Effeithiol

Bydd amgueddfeydd yn rheoli eu safleoedd, eu gweithrediadau, eu casgliadau a’u pobl yn fwy effeithiol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau sy’n berthnasol, yn gadarn ac yn gynaliadwy ar gyfer dinasyddion.”

Mae'r strategaeth yn cynnwys astudiaethau achos a chynllun gweithredu manwl ar gyfer 2010-2015. Mae tudalennau y Ffederasiwn yn rhoi rhagor o wybodaeth o ran cyflawni'r strategaeth.

Cyflawni'r Strategaeth

Mae'r adroddiad hwn, a gyhoeddwyd gan y Ffederasiwn ym mis Hydref 2012, yn amlinellu sut mae amgueddfeydd a sefydliadau partner wedi bod yn cyflawni'r strategaeth, ymhle mae angen cymorth, a pha gamau gweithredu sy'n cael eu hargymell i'r dyfodol.

Cofiwch hefyd fod CyMAL yn cynhyrchu adroddiad ar gyflawni'r strategaeth, ond nid yw'r adroddiad ar gael ar-lein eto (ar 10 Rhagfyr 2012).